Ymateb i: Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

 

Ymateb yr Uned Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd - 28 Awst 2021

 

 

Amdanom ni

 

Ers 2015, mae'r Uned Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnal ymchwil i ddeall ac ymgysylltu yn well â'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol, yn ogystal â'r economi greadigol ehangach, yng Nghymru. Mae'r Uned yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth, rhwydweithio a chydweithio rhwng academyddion, myfyrwyr a busnesau a sefydliadau creadigol drwy fentrau sy’n cynnwys:

 

·         Caerdydd Greadigol (2015-presennol) -  rhwydwaith creadigol dinesig gyda chymuned o fwy na 4000 o aelodau o'r diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae'r rhwydwaith yn meithrin cysylltiadau rhwng pobl greadigol ac yn annog arloesedd ar draws sectorau a disgyblaethau. Ers 2015 mae wedi cynnal 70 o ddigwyddiadau gyda miloedd o ymarferwyr creadigol, a chafwyd 1.5M o ymweliadau â gwefan y rhwydwaith https://creativecardiff.org.uk

·         Clwstwr (2019-2023) - rhan o Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol. Dyma’r buddsoddiad unigol mwyaf gan lywodraeth y DU yn y diwydiannau creadigol. Mae Clwstwr wedi’i arwain gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn cynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol, asiantaethau strategol, a darlledwyr mawr y DU. Mae'r rhaglen arloesedd gwerth £10m wedi curadu ac ariannu dros 100 o brosiectau ymchwil a datblygu gyda chwmnïau o Gymru i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sectorau sgrin a chyfryngau: https://clwstwr.org.uk/cy

·         media.cymru (2022-2026) - rhaglen fuddsoddi strategol sy'n dwyn ynghyd 24 o bartneriaid cynhyrchu cyfryngau, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol i roi hwb mawr i ecosystem y cyfryngau. Ei phrif uchelgais yw gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau, gan ysgogi twf cynaliadwy, cynhwysol ac economaidd: https://www.cardiff.ac.uk/cy/creative-economy/media-cymru

 

O 2020 ymlaen, bu’n rhaid i'r Uned Economi Greadigol addasu ei weithrediadau, yn wyneb pandemig COVID-19 ac yn sgil Brexit:

·          Fel ymateb brys i bandemig COVID-19, fe wnaeth yr Uned Economi Greadigol gyfan newid ei weithgareddau, symud cyfarfodydd, digwyddiadau a galwadau cyllido ar-lein yn ogystal ag addasu'r dulliau ar gyfer gwneud ymchwil, datblygu ac arloesedd yn y diwydiannau creadigol. Rydym wedi canfod bod rhyngweithio un i un, rhwydweithio ac ymgysylltu ag ymarferwyr diwydiant creadigol, ynghyd ag ymgysylltu rhyngddynt, yn hanfodol i greu effaith ystyrlon. Er bod y ffyrdd newydd o weithio o bell wedi ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â phrosiectau a'r diwydiant creadigol lleol, mae mynd yn ôl i ryngweithio’n uniongyrchol yn hanfodol yn y tymor hir.

·          Mae'r heriau sy’n gysylltiedig â’r pandemig a Brexit yn golygu bod gweithgareddau rhyngwladol, sy'n hanfodol ar gyfer cynhyrchu yn y cyfryngau a gwaith creadigol, wedi dod yn anoddach o lawer. Drwy ddatblygu partneriaethau strategol â Media City Bergen[1] ac MFG Baden Württemberg[2], sydd wedi arwain at ddigwyddiadau ar-lein poblogaidd a diddorol i ymarferwyr creadigol, a sefydlu partneriaethau ychwanegol, rydym yn gobeithio gwrthbwyso effaith negyddol y rhwystrau newydd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol.

 

Yn olaf, trwy ein rhwydweithiau datblygedig a'n gwaith ymgysylltu rydym wedi darganfod bod angen cefnogaeth ar unwaith ar y sector i’w adfer yn sgil effaith negyddol COVID-19 a Brexit. Mae angen cefnogaeth ar unwaith ar y sector i’w adfer yn sgil effaith negyddol COVID-19 a Brexit. Rydym wedi cyhoeddi sawl adroddiad ymchwil yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sy'n dadansoddi'n fanylach sefyllfa'r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth - gweler: https://clwstwr.org.uk/cy/cyhoeddiadau Mae'r sylwadau canlynol wedi'u seilio ar ganfyddiadau ymchwil yr adroddiadau hyn:

o                   (R1) Komorowski M, Lewis J, (2020). Cynllun cymorth incwm hunangyflogedig COVID-19: sut fydd hyn yn helpu gweithwyr llawrydd y diwydiannau creadigol yng Nghymru?[3]

o                   (R2) Komorowski M, Lewis J, (2020). Effaith (bosibl) Brexit ar fusnesau creadigol[4]

o                   (R3) Panneels I, Terras M, Jones C, Helgason I, Komorowski M, (2021). Plugging the data gap: Freelance workers in the creative industries[5]

o         (R4) Hannah F, McElroy R, (2020). Gwaith Sgrin 2020: Sgiliau ac arloesedd at y dyfodol i'r Sector Sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.[6]

 

Beth yw effaith bresennol pandemig COVID-19 ar eich sector, a pha gefnogaeth bellach sydd ei hangen gan Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru effaith y pandemig a galluogi'r adferiad ar ôl y pandemig?

 

Mae'r diwydiannau diwylliannol, y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol ehangach yng Nghymru yn cynnwys gweithwyr llawrydd yn bennaf (R1), gyda rhai sectorau, fel y sector sgrin, yn cynnwys lefel anghymesur (yn ôl R4 mae hyn mor uchel â 73.3%) o fusnesau bach a gweithwyr llawrydd. Er bod colledion ariannol yn parhau i fod yn un o'r problemau mwyaf i'r grŵp hwn, gallai eu sefyllfa fregus waethygu yn y tymor hir o ganlyniad i brinder llafur, diffyg strategaeth uwchsgilio glir, a diffyg cyfleoedd rhwydweithio. Yn fwy penodol, mae ein hymchwil yn dangos y canlynol:

-          Cafodd COVID-19 effaith ddwys ar weithwyr llawrydd creadigol, a disgwylir y bydd hyn yn cael effeithiau mewn sawl ffordd ar draws y diwydiannau creadigol. Ar gyfer 85% o’r ymatebwyr i un o'n hadroddiadau Caerdydd Creadigol, mae eu gwaith naill ai wedi diflannu’n llwyr (60%) neu wedi lleihau yn fawr (25%) (R1)

-          Er bod mesurau fel Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth COVID-19 y Llywodraeth wedi cael eu croesawu, nid oedd llawer o weithwyr llawrydd yn gymwys ar ei gyfer oherwydd eu ffurf gyfreithiol, cofnodion cyflogaeth, anghymwyster, neu am y rheswm syml nad oedd y cronfeydd yn diwallu eu hanghenion yn briodol (R1)

-          O ganlyniad i’r cyfyngiadau symud, bu’n rhaid i 58% o sefydliadau yn y diwydiant sgrin ohirio gweithgarwch a drefnwyd, tra bu’n rhaid i 26% o sefydliadau ganslo gweithgarwch cynhyrchu a drefnwyd (R4)

-          Bu’n rhaid i 22% o'r holl fusnesau bach a chanolig/micro annibynnol gyda llai na 4 aelod o staff yn y sector sgrin leihau eu gwaith oherwydd cyfrifoldebau rhiant/gofalwr yn ystod y pandemig, ac roedd menywod ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf (R4)

-          Mae risg uniongyrchol i gwmnïau heb gyllid ymchwil a datblygu penodol bod eu mantais gystadleuol eisoes wedi'i golli i gwmnïau mwy, sydd â'r adnoddau ariannol i gefnogi arloesedd (R4)

-          Mae COVID-19 wedi cynyddu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli, ac wedi amlygu’r effaith o gael sector sydd i raddau helaeth yn cynnwys gweithwyr llawrydd ac sydd wedi'i nodweddu gan lefelau uchel o ansicrwydd (R4)

-          Mae pryder sylweddol am y risgiau iechyd i weithwyr llawrydd ag anableddau, sy’n lleiafrif sylweddol (yn un o'n hastudiaethau maent yn cynrychioli 13.2% o'r ymatebwyr) (R4)

 

Er gwaethaf yr effeithiau negyddol, nodwyd rhywfaint o effaith gadarnhaol ar gyfer y sector sgrin/cyfryngau:

-          I rai is-sectorau fel animeiddio, gemau ac effeithiau gweledol, arweiniodd y pandemig at ddefnyddio technoleg i gyflymu prosesau llif gwaith, a gafodd effaith gadarnhaol ar fusnes (R4)

-          Fe wnaeth bron i hanner (40.6%) y darparwyr hyfforddiant yn y sector newid ffocws eu gweithgareddau yn gyflym yn ystod chwe mis cyntaf COVID-19, a arweiniodd at allgymorth well a thargedau’n cael eu cyrraedd (R4)

-          Fe wnaeth colli cynhyrchiadau a drefnwyd alluogi rhai cwmnïau i ganolbwyntio mwy ar weithgareddau ymchwil a datblygu nad oeddent yn ymwneud yn uniongyrchol â chynnwys a gomisiynwyd ac ysgogi arloesedd yn eu busnes felly (R4)

 

Angen cefnogaeth

1.       Mae cefnogaeth ariannol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ac mae angen cynlluniau mwy pwrpasol, yn enwedig ar gyfer gweithwyr llawrydd. Gallai hyn gynnwys uwchraddio’r cynlluniau presennol drwy:

- ystyried cynnwys y cyfuniad o waith PAYE ac incwm llawrydd yn y gorffennol wrth asesu cyfartaledd incwm, yn ogystal â'r amser mae'n ei gymryd i adeiladu busnes llawrydd.

- defnyddio metrigau sy'n cynnwys difidendau incwm gweithwyr llawrydd creadigol sy'n Gwmnïau Cyfyngedig.

- defnyddio metrigau sy'n cynnwys y rheini sydd wedi dechrau ar yrfa llawrydd yn ddiweddar.

- ystyried taliadau cychwynnol ar gyfer cyfnod yr oedi wrth asesu.

 

2.       Dylid ystyried cefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer gweithwyr llawrydd, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio’r grŵp hwn mewn unrhyw gynllun peilot gan Lywodraeth Cymru ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol.[7]

3.       Bydd datblygu sgiliau yn hanfodol yn y cyfnod sydd i ddod, wrth i gystadleuaeth yn y diwydiant gynyddu, ac wrth i’r galw am sgiliau trawsddisgyblaethol a meddal dyfu. Mae angen i Lywodraeth y DU bennu strategaeth hirdymor ar gyfer y sector gyda fframwaith addas a digon o gyllid. Er mwyn cyflawni hyn yn llwyddiannus, mae angen ymchwil fwy systematig i anghenion hyfforddi. Gallai sefydlu Arsyllfa Sgiliau[8] gyda’r gallu i gynnal ymchwil annibynnol a chasglu gwybodaeth am y rhanbarth fod yn gam strategol ar gyfer mapio anghenion o ran datblygu sgiliau gweithlu'r diwydiant yn barhaus.

4.       Mae cefnogi gallu’r sector i weithredu’n rhyngwladol ac arloesi yn hollbwysig ar gyfer ei wydnwch yn y tymor hir. Mae angen rhaglen fwy systematig o gynlluniau cyllido sy'n blaenoriaethu cydweithredu trawsddisgyblaethol a rhyngwladol, a dylid gwneud hyn mewn cydweithrediad â chyrff rhyngwladol eraill. Dylai'r cynlluniau hyn sicrhau bod gwaith ymchwil a datblygu yn ganolog i gystadleurwydd y rhanbarth, a gallent gynnig cyfleoedd busnes a chysylltiadau newydd i ymarferwyr creadigol sydd wedi colli rhan sylweddol o'u gweithgarwch busnes lleol.

5.       Mae ehangu mynediad, gwybodaeth a sgiliau digidol yn allweddol ar gyfer twf a llwyddiant yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae gweithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig llai yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag mynediad. Mae'n hanfodol datblygu arferion rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau llai a mwy a gwella sgiliau’r sector er mwyn rhoi cyfleoedd i gwmnïau llai gael rheolaeth dros eu cynnwys digidol a chael elw o'r gweithgaredd hwn.

 

 

Sut mae Brexit a'r berthynas newydd rhwng y DU a'r UE yn effeithio arnoch chi neu eich sefydliad? Pa gymorth ydych chi wedi'i gael i ymateb i'r newidiadau? Pa gefnogaeth bellach, os o gwbl, sydd ei hangen gan Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU?

 

Er ein bod yn cydnabod bod Brexit yn cael effaith enfawr ar yr economi greadigol ac yn benodol ar y sector cyfryngau a sgrin (fframweithiau rheoleiddio newydd, colli cyfleoedd cyllido, cyfyngiadau ar allu’r gweithlu i symud ac ati), effeithiwyd ar ein sefydliad yn y ffyrdd canlynol:

 

·          Ansicrwydd a’r baich ariannol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau rhyngwladol

Mae cynllunio ar gyfer gweithgareddau teithio rhyngwladol a gweithgareddau busnes wyneb yn wyneb troi’n faich ariannol a logistaidd, yn cymryd cyfran anghymesur o adnoddau, ac yn dod yn anghynaladwy yn y tymor hir. Ar gyfer ein prosiectau sydd ar y gweill sydd ag elfen ryngwladol bwysig (e.e. media.cymru), mae angen i ni gynllunio ymlaen llaw i osgoi tagfeydd. Gall gweithdrefnau sy’n rhy gymhleth o ran trefniadau teithio/cytundebau cyfreithiol gael effaith ddifrifol ar ein gallu o ran allgymorth rhyngwladol. Mae cefnogaeth wedi’i theilwra ar ffurf canllawiau, arferion gorau a gwybodaeth yn ddefnyddiol i leddfu'r baich sy'n gysylltiedig â rhyngwladoli. Mae hyn yn cyd-fynd â’n hargymhelliad yn adroddiad R3 sy'n awgrymu y dylai Llywodraeth y DU sicrhau aliniad mor agos â phosibl â'r UE i leihau rhwystrau masnach, a byddem yn croesawu cefnogaeth y pwyllgor i bwyso am hyn drwy unrhyw drafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

·          Ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol

Er bod y DU yn dal i fod yn aelod cyswllt o fframweithiau cyllido mawr fel Horizon, rydym yn pryderu am ymrwymo fel partneriaid mewn prosiectau tymor hir. Mae diffyg ymrwymiad tymor hir gan Lywodraeth y DU i'r cynlluniau hyn wedi creu delwedd negyddol o bartneriaid y DU fel rhai sy'n ansefydlog ac felly’n rhai nad ydynt yn ddymunol. Yn ogystal ag ymrwymiad mwy hirdymor i'r rhaglenni hyn, mae angen i Lywodraeth y DU gefnogi ymdrechion i adfer delwedd gadarnhaol o bartneriaid yn y DU (cryf, dibynadwy). Gallai cynlluniau cyd-ariannu cenedlaethol ar gyfer partneriaid yn y DU ddod yn gymhelliant ychwanegol i fod yn bartneriaid yn y cynlluniau sy'n dal i fod yn agored i bartneriaid yn y DU. Mae hyn yn cysylltu ymhellach â'n hargymhelliad adroddiad polisi R3 sy'n awgrymu y dylai Llywodraeth y DU hefyd geisio llenwi bwlch ffynonellau cyllid o’r UE a gollwyd drwy gynlluniau eraill a thrwy barhau i gynnal cysylltiadau â rhaglenni'r UE sy'n parhau i fod yn agored i gyfranogwyr y tu allan i'r UE.

 

·          Gwaith papur a chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithwyr tramor

Mae lefelau uchel o fiwrocratiaeth a chostau uwch wrth brosesu'r gwaith papur angenrheidiol ar gyfer ein gweithwyr o bell mewn gwledydd tramor yn rhoi llawer o bwysau ar dimau adnoddau dynol a chyllid. Mae mynediad parhaus at dalent a sgiliau yn allweddol i gynnal lefelau rhagorol mewn gwaith ymchwil, ac mae galluogi pobl dalentog i symud yn rhydd yn rhagofyniad ar gyfer hyn. Mae angen gweithdrefnau mwy tryloyw a phrosesau effeithlon/llai costus arnom ar frys er mwyn gallu cyflogi yn rhyngwladol.

 

Pa faterion ddylai'r pwyllgor eu blaenoriaethu wrth gynllunio ein rhaglen waith yn y tymor byr a'r tymor hwy?

 

Mae sefydlogrwydd ariannol y gymuned greadigol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y tymor byr. Credwn y bydd cefnogaeth ariannol yn aneffeithlon os nad oes mesurau penodol sy'n meithrin y gallu i arloesi ac yn cynyddu gwydnwch y gymuned greadigol yng Nghymru hefyd. Rydym o'r farn y dylai'r pwyllgor flaenoriaethu'r materion canlynol (yn nhrefn y tymor byr i'r tymor hir):

 

·         Lefelau uchel o ansicrwydd gwaith ac anghydraddoldeb sydd wedi cynyddu o ganlyniad i COVID-19. O ystyried bod cyfran uchel o'r gweithlu llawrydd yn rhieni neu'n ofalwyr (R1), mae angen rhoi mesurau penodol ar waith ar frys i leddfu’r pwysau sydd ar y grwpiau hyn (menywod yn arbennig).

 

·         Bylchau o ran casglu data ynghylch busnesau bach a gweithwyr llawrydd. Mae diffyg data ar gael ar y gweithlu hunangyflogedig a llawrydd yn y sectorau creadigol a diwylliannol (R3). Mae angen dull aml-haen sy'n edrych ar systemau casglu data (SIC/SOC), safoni data, a gweithgareddau mapio cyfunol/deinamig er mwyn teilwra mesurau cefnogaeth i anghenion y grŵp hwn.

 

·         Mae'r defnydd o ymchwil a datblygu yn parhau i fod ar ei hôl hi ar gyfer sectorau creadigol a diwylliannol. Mae yna diffyg cysylltiadau rhwng y gwahanol is-sectorau, heb lawer o waith traws-sector neu bartneriaeth i ddatblygu eiddo deallusol (R4). Mae angen sicrhau bod arloesedd a datblygu sgiliau trawsddisgyblaethol yn ganolog i unrhyw strategaeth yn y dyfodol i osgoi sefyllfa o feddwl o fewn seilos, a dylunio mesurau penodol sy'n sicrhau bod gweithgarwch ymchwil a datblygu yn dod yn rhan o ddiwylliant busnes gweithwyr llawrydd/busnesau bach a chanolig.

 

·         Diffyg strategaeth sgiliau integredig a chynhwysol ar gyfer y dyfodol. Rhaid sicrhau bod arloesedd yn elfen ganolog o strategaeth sgiliau sgrin benodol, gan gynnwys creu Cronfa Sgiliau sy'n hygyrch ac yn gynhwysol. At hynny, gyda chwmnïau cynhyrchu yn mynegi pryderon ar gyfer haf 2021 o ran prinder llafur disgwyliedig (R4), gallai amodau contractio cyfreithiol mwy effeithlon a mwy o amlygrwydd/mynediad at swyddi leddfu'r pwysau ar y farchnad lafur. Gallai'r Pwyllgor hefyd ystyried a fyddai’n syniad defnyddio'r momentwm a grëwyd gan gynnig ar-lein darparwyr hyfforddiant i ddylunio cynllun hyfforddi unigryw ac amrywiol, gan roi mynediad hawdd at adnoddau.



[1] https://clwstwr.org.uk/cy/clwstwr-media-city-bergen-yn-cyhoeddi-partneriaeth-newydd

[2] https://clwstwr.org.uk/cy/mae-clwstwr-ac-mfg-baden-wurttemberg-yn-ffurfio-partneriaeth-i-gysylltu-arloeswyr-creadigol

[3] https://creativecardiff.org.uk/sites/default/files/Astudiaeth%20Caerdydd%20Creadigol%20ar%20Gynllun%20Cymorth%20COVID-19%202.4.20-converted.pdf

[4] https://clwstwr.org.uk/sites/default/files/2020-07/Clwstwr%20Policy%20Brief%20No%201_Welsh_FINAL.pdf

[5] https://www.pec.ac.uk/blog/plugging-the-data-gap-freelance-and-self-employed-workers-in-the-creative-industries

[6] https://clwstwr.org.uk/sites/default/files/2021-01/Screen_Work_2020_CY_0.pdf

[7]https://www.futuregenerations.wales/cy/news/7928-2/

[8] Mae rhai enghreifftiau o arsyllfeydd o'r fath (heb fod yn gyfyngedig i'r diwydiannau creadigol) yn cynnwys: Arsyllfa Sgiliau Digidol y Sefydliad Codio (https://instituteofcoding.org/about/the-observatory/) o Brifysgol Caerfaddon, Arsyllfa Sgiliau PwC yn Lwcsembwrg (https://www.pwc.lu/en/upskilling/docs/pwc-skills-observatory.pdf) ac Arsyllfa Ewrop ar gyfer sgiliau treftadaeth ddiwylliannol a fydd yn cael ei sefydlu gan y Gynghrair Siarter (https://charter-alliance.eu/results/).